close
Neidio i'r cynnwys

Gibbonsdown

Oddi ar Wicipedia
Gibbonsdown
Image
Mathmaestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Siry Barri Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4149°N 3.2645°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddPen-y-bont Bro Morgannwg
Etholaeth y DUKanishka Narayan (Llafur)
Map

Ardal o dref y Barri ym Mro Morgannwg yw Gibbonsdown, a dalfyrir ar lafar yn lleol i 'Gibby'. Mae'n ardal ac yn Ward etholiadol a leolir yng ngogledd ddwyrain y Barri. Mae Gibbonsdown yn ffinio Merthyr Dyfan i'r gogledd orllewin, a Thregatwg i'r de ddwyrain. Adeiladwyd y stâd yn yr 1960au ac roedd iddi 1,722 o drigolion yn 2017, gyda'r mwyafrif o dai yn dai cyngor.[1]

Mae'r ward wedi bod yn un difreintiedg ac roedd yn derbyn cefnogaeth gan brosiect Cymunedau'n Gyntaf. Roedd Cymunedau'n Gyntaf yn bolisi gan Lywodraeth Cymru o 2001 i ganol yr 2010au i geisio lliniadu effeithiau tlodi mewn cymunedau ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar draws Cymru drwy weithgareddau cymunedol.[2]

Ystyr 'Gibbonsdown' yw "bryn Gibbon". Daw'r gair 'down' o'r Hen Saesneg, dun.[3]

Nid oes enw Cymraeg i'r ardal.

Digwyddiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llofruddiaeth

[golygu | golygu cod]

Roedd Gibbonsdown yn leoliad trywaniad angeul yn 2009, lle lladdwyd Paul Jones.[4] Arestiwyd John Chivers y noson honno ac fe'i ddedfrydwyd i leiafswm o 18 mlwyddyn yn y carchard.[5] Wedi'r llofruddiaeth cwynodd Molly Conway, Cadeirydd Bwrdd Trigolion Gibbonsdown (Gibbonsdown Residents' Board) am ddiffyr staff a phresenoldeb yr heddlu ar yr ystâd sy'n adnabyddus am ddioddef trafferthion gyda thrais ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.[6]

Colli to mewn storm

[golygu | golygu cod]

Yn 2018 chwythwyd to tŷ yn Gibbonsdown oddi ar yr adeilad yn gwyntoedd cryfion. Difethwyd y tŷ gan 'Storm Elinor' ar 2 Ionawr. Cafodd Matthew Venables, ei bartner Natasha a'u plant Louis, un oed, a Theo, wyth wythnos oed, eu gorfodi o'u cartref am 02:00 fore Mercher.[7]

Nodweddion

[golygu | golygu cod]
Image
Map o Gibbonsdown

Mae Gibbonsdown yn gartref i Canolfan hamdden Gymunedol Holm View (a enwir ar ôl ynysoedd Ynys Echni (Flat Holm) ac Ynys Rhonech (Steep Holm) a welir o'r Barri), Canolfan Blant Gibbonsdown, Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant ac ysgol cyfrwng Saesneg, Ysgol Gynradd Oakfield (a elwyd yn Gibbonsdown Primary School cyn ei hail-adeiladiad) sydd y drws nesa' i'w gilydd. Lleolwyd hen ysgol anghenion arbennig, Ysgol Maes Dyfan, ar yr ystâd oedd â 96 disgybl yn 2005.[8] Caewyd yr ysgol ar 14 Tachwedd 2014 gan ei ddymchwel ac adeiladu tai ar y safle.[9] Lleolir hefyd Parc Pencoedtre park a thafarn y Master Mariner ar Skomer Rd.[10] Lleolir y Pencoedtre Splash Pad (man chwarae dŵr i blant) yn yr ystâd sy'n boblogaidd gyda thrigolion y Barri.[1]

Trafnidiaeth

[golygu | golygu cod]

Prif ffydd Gibbonsdown yw Treharne Road (a elwir yn "The Treharne" gan y brodorion), Caradoc Avenue, Robins Lane, a Skomer Road, sy'n cysylltu'r stâd gyda phentref (bellach maestref) Gwenfo.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Gibbonsdown Neighbourhood Plan" (PDF). Cyngor Bro Morgannwg. 2018. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2026.
  2. "Pryderon ynghylch newidiadau i raglen Cymunedau'n Gyntaf". BBC Cymru Fyw. 8 Hydref 2012.
  3. "The Derivation And Meaning Of Place-Names". Gwefan Wenvoe Online. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2026.
  4. "Barry man denies murder charge". Barry and District News. 20 Awst 2009. Cyrchwyd 7 Mehefin 2010.
  5. "John Chivers' life term for pal's Barry stabbing". bbc.co.uk. 11 Mawrth 2010. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2013.
  6. "Murder Accused is Set to Deny Charge". Wales Online. 8 August 2009. Cyrchwyd 7 Mehefin 2010.
  7. "Storm Eleanor: Teulu'n dianc ar ôl colli to eu cartref". BBC Cymru Fyw. 3 Ionawr 2018.
  8. "Ysgol Maes Dyfan English Report" (PDF). Estyn. Cyrchwyd 7 Mehefin 2010.
  9. "Old Barry". Tudalen Facebook 'Old Barry in Pictures'. 12 Awst 2014.
  10. "Master Mariner". Gwefan CAMRA. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2026.